Cystadleuaeth Agored Barddoniaeth PENfro - Rheolau 2017
1.Testun: Cerdd gaeth neu rydd (heb fod dros 40 o linellau) ar y thema ‘Chwedl’ neu ‘Chwedlau’
2. Dylech deipio pob cerdd gan osod teitl y gerdd ar ben y tudalen. Peidiwch â chynnwys unrhyw fanylion personol am yr awdur.
3. Os anfonir y cais drwy’r post, dylai’r gerdd fod wedi ei hargraffu ar un ochr o bapur A4 yn unig. Bydd angen dau gopi o bob cerdd os ydych yn dewis cyflwyno eich gwaith yn y modd yma. I gyflwyno eich gwaith ar lein, dilynwch y cyfarwyddiadau ar ein gwefan.
4. Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw Dydd Sul, Gorffennaf 30ain 2017.
5. Gellir anfon gwaith drwy bost neu ar lein. Mae’r gystadleuaeth yn rhyngwladol ac yn agored i bawb oed 16 a hŷn. Ni chyfyngir ar nifer y cerddi gall cystadleuydd eu hanfon ond rhaid talu ffi o £4 am bob cerdd a gyflwynwyd.
6. Os ydych yn cyflwyno eich gwaith ar lein, talwch gan ddefnyddio PayPal neu gerdyn dyled neu gredyd. (Mae 'na fotwm PayPal ar y dudalen gais ar-lein). Os anfonir eich cais drwy’r post, talwch gyda siec neu archeb bost. Dylid anfon y gwaith at Gystadleuaeth Barddoniaeth PENfro, Plasty Rhosygilwen, Rhoshill, Sir Benfro. SA432TW
7. Os byddwch yn anfon eich cais drwy’r post, lawr lwythwch y ffurflen gais neu ysgrifennwch deitlau eich cerddi gydag eich manylion cyswllt llawn ar dudalen wahanol o bapur.
8. Peidiwch ag anfon gwaith sydd wedi cael ei gyhoeddi ar lein, neu mewn print, neu ei ddarlledu, neu wedi ei wobrwyo o’r blaen.
9. Peidiwch â rhoi eich enw gyda’ch cerdd.
10. Ni ddychwelir ceisiadau felly cadwch gopi o’ch gwaith. Ni chaniateir cywiriadau na newidiadau ar ôl derbyn y gwaith.
11. Gwobrwyon 2017 yw: 1af - £300; 2il - £125; 3ydd - £75.
12. Cyhoeddir canlyniadau’r gystadleuaeth yng Ngŵyl Lyfrau PENfro ar ddydd Sadwrn, Medi 9fed am 3 y prynhawn, ac ar ôl hynny ar ein gwefan. Gwahoddir awduron y ddeg cerdd sy’n cyrraedd y rhestr fer i ddarllen eu gwaith yn gyhoeddus.
13. Ni chaniateir i’r un gerdd ennill mwy nag un wobr.
14. Dylai pob cystadleuydd dderbyn hawl gwefan PENfro i gyhoeddi cerddi ac enwau'r awduron llwyddiannus yn ogystal â defnyddio’r gwaith mewn unrhyw ddefnydd hyrwyddo.
15. Bydd unrhyw gais sydd ddim yn dilyn y rheolau yn cael ei wahardd. Ni fydd unrhyw ohebiaeth ynglŷn â’r gwaith ac fe fydd penderfyniad y beirniad yn derfynol.
16. Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un oed 16 a hŷn. Ni ddylid cyflwyno cerddi sydd wedi eu cyhoeddi neu sydd ar hyn o bryd wedi eu cyflwyno i gystadlaethau a chyhoeddiadau eraill.